Mae Teleofal Caerdydd yn cynnig gwasanaeth i helpu preswylwyr bregus, anabl ac oedrannus i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Ewch i wefan Pryd ar Glud
Mae Pryd ar Glud yn dosbarthu prydau poeth, maethlon i breswylwyr ac yn darparu ar gyfer amrywiaeth o ddeietau ac chyflyrau.
Gwasanaethau Byw yn Annibynnol
Gwybodaeth, cyngor a chymorth i helpu oedolion i fyw’n fwy annibynnol.
Gwasanaethau gwastraff
Gallwch gael help i roi eich biniau allan a chofrestru i gael negeseuon atgoffa am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu.
Hybiau a Llyfrgelloedd
Rydym yn cynnig gwasanaeth llyfrgell symudol i bobl sy’n gaeth i’r tŷ os ydych yn ei chael hi’n anodd teithio i Hyb neu Lyfrgell.
Parciau
Gall cerdded ac ymarfer corff helpu i wella eich iechyd a’ch lles
Tîm Lleol
Gall y Tîm Lleol gynnig ymweliad untro i helpu trigolion i glirio eu gerddi o lystyfiant sydd wedi gordyfu a gwastraff dieisiau.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â nhw ar 02920 872787 neu e-bostiwch TimLleol@caerdydd.gov.uk
Toiledau yng Nghaerdydd
Os ydych chi’n breswylydd neu’n ymwelydd â Chaerdydd, rydyn ni eisiau sicrhau y gallwch chi gael mynediad at doiled ar gyfer eich anghenion.